Llesiant yn Nhirlun y Preseli – Wellbeing in the Preseli Landscape

Cafwyd diwrnod ysbrydoledig yn ddiweddar yng nghoetiroedd hyfryd a mawreddog Pentre Ifan; yn archwilio’r ffordd y gall ein cysylltiad hynafol â thirwedd a natur Preseli ddylanwadu ar ein hiechyd a’n lles. Dan arweiniad Andrew Dugmore o Reconnect in Nature (reconnectinnature.org.uk) gwnaethom rannu ein teimladau o fod yn yr awyr agored yn nhirwedd Preseli, ac arbrofi gyda thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar i’n helpu i ddeall a dyfnhau ein cysylltiad â’r byd naturiol. Buom hefyd yn siarad am y ffyrdd y byddai ein cyndeidiau wedi byw a faint yn agosach at natur a’r awyr agored y byddent wedi bod; gan eu bod yn dibynnu arno am eu hanfodion sylfaenol a’u goroesiad. Diolch i bawb a fynychodd y diwrnod!

An inspiring day was had recently at the beautiful and majestic woodlands of Pentre Ifan; exploring the way our ancient connection to the Preseli landscape and nature can influence our health and wellbeing. Lead by Andrew Dugmore of Reconnect in Nature (reconnectinnature.org.uk) we shared our feelings of being outdoors in the Preseli landscape, and experimented with mindfulness techniques to help us understand and deepen our connection to the natural world. We also talked around the ways in which our ancestors would have lived and how much closer to nature and the outdoors they would have been; as they depended on it for their basic necessities and survival. Thanks to all that attended the day!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *