Lleoliadau Cloi Lawr Lleol – Local Lockdown Locations

Yn ystod yr amseroedd rhyfedd ac anodd hyn, un o uchafbwyntiau’r dydd i lawer ohonom yw ein teithiau cerdded beunyddiol a’n hamser yn yr awyr agored. Rwy’n siŵr ein bod wedi tyfu i drysori a gwerthfawrogi’r amser yma mwy nag erioed o’r blaen.

Efallai bod yr amseroedd hyn hefyd wedi rhoi cyfle inni ddod i adnabod ein hardaloedd lleol, gyda’u nodweddion unigryw ac arbennig yn llawer mwy manwl. Efallai bod gennym hoff daith gerdded newydd, hoff olygfa neu hoff fan yn ein gerddi yr ydym wedi mwynhau archwilio’r naws hwnnw o le

Felly rydym yn eich gwahodd i rannu gyda ni fideo o’ch hoff leoliad cloi lawr lleol! Boed yn daith gerdded, golygfa, neu’ch hoff ofod awyr agored. Neu unrhyw beth arall rydych chi’n teimlo fel ei rannu! Mae hyn yn mynd i fod yn rhan pwysig o’n hanes cymdeithasol yn y dyfodol!

Gwelir y fideo isod i ddysgu mwy am sut i recordio a rhannu eich fideos gyda ni:

During these strange and difficult times, one of the highlights of the day for many of us is our daily walks and our time outdoors. I’m sure we have grown to love and appreciate this time more than ever before.

These times may also have given us the opportunity to get to know our local areas, with their unique and special qualities in much greater detail. We may have a favourite new walk, a favourite view or a favourite spot in our gardens that we have enjoyed exploring that sense of place

So we invite you to share with us a video of your favorite local lockdown location! Whether it’s a walk, a view, or your favorite outdoor space. Or anything else you feel like sharing! This is going to be an important part of our future social history!

See the video above to learn more about how to record and share your videos with us!

Llesiant yn Nhirlun y Preseli – Wellbeing in the Preseli Landscape

Cafwyd diwrnod ysbrydoledig yn ddiweddar yng nghoetiroedd hyfryd a mawreddog Pentre Ifan; yn archwilio’r ffordd y gall ein cysylltiad hynafol â thirwedd a natur Preseli ddylanwadu ar ein hiechyd a’n lles. Dan arweiniad Andrew Dugmore o Reconnect in Nature (reconnectinnature.org.uk) gwnaethom rannu ein teimladau o fod yn yr awyr agored yn nhirwedd Preseli, ac arbrofi gyda thechnegau ymwybyddiaeth ofalgar i’n helpu i ddeall a dyfnhau ein cysylltiad â’r byd naturiol. Buom hefyd yn siarad am y ffyrdd y byddai ein cyndeidiau wedi byw a faint yn agosach at natur a’r awyr agored y byddent wedi bod; gan eu bod yn dibynnu arno am eu hanfodion sylfaenol a’u goroesiad. Diolch i bawb a fynychodd y diwrnod!

An inspiring day was had recently at the beautiful and majestic woodlands of Pentre Ifan; exploring the way our ancient connection to the Preseli landscape and nature can influence our health and wellbeing. Lead by Andrew Dugmore of Reconnect in Nature (reconnectinnature.org.uk) we shared our feelings of being outdoors in the Preseli landscape, and experimented with mindfulness techniques to help us understand and deepen our connection to the natural world. We also talked around the ways in which our ancestors would have lived and how much closer to nature and the outdoors they would have been; as they depended on it for their basic necessities and survival. Thanks to all that attended the day!