Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn dreftadaeth? Are you interested in a career in heritage?

Tachwedd 18 November – 11.00am – YouTube LIVE

Ydych chi’n astudio ar gyfer TGAU, Safon Uwch neu gwrs yn y coleg neu’r brifysgol?
Hoffech chi ddarganfod mwy am weithio yn y sector treftadaeth?
Ymunwch â’n panel o arbenigwyr treftadaeth wrth iddynt siarad am sut y gwnaethant ddechrau yn eu gyrfaoedd, a rhoi cyngor am weithio yn y sector gwerth chweil ond cystadleuol hwn.
———————————————————-
Are you studying for GCSEs, A-Levels or a course at college or university?
Would you like to find out more about working in the heritage sector?
Join our panel of heritage experts as they talk about how they started in their careers and give advice about working in this rewarding but competitive sector.

Tu ôl i’r llenni – Behind the Scenes

Ym mis Hydref trefnwyd nifer o ddigwyddiadau “Tu ôl i’r llenni” gan brosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli. Ymwelodd criw bychan a Sain Ffagan, Amgueddfa Arberth, Maenordy Scolton ac Archifdy Sir Benfro. Dysgodd y criw sut mae pob sefydliad yn dehongli ein treftadaeth a hefyd sut mae’r sefydliad yn gweithio o ddydd i ddydd. Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed cyflyniad gan Pauline Griffiths, sydd wedi bod yng nghlwm gydag amgueddfa Arberth ers dros 30 mlynedd bellach. Yn Sain Ffagan cafwyd cyflwyniad gan Nia Williams Cyfarwyddwr Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru a chawsom wir flas ar sut mae’r lle yn gweithredu tu ôl i’r llenni. Hefyd roedd yn amlwg i ni a’r criw bod Archifdy Sir Benfro yn ased enfawr i bobl y Sir. Cait wnaeth arwain y grwp ar daith Tu ôl i’r Llenni ym Maenordy Scolton, roedd gan Cait gyfoeth o wybodaeth am y faenor a’r teuluoedd a fuodd yn byw yna. Lle arbennig iawn!

In October a number of “Behind the scenes” events were organized by the project. A small group visited St Fagans, Narberth Museum, Scolton Manor and Pembrokeshire Archives. The group learned how each organization interprets our heritage and also how the organization works on a day-to-day basis. It was particularly interesting to hear a follow-up by Pauline Griffiths, who has been involved with Narberth museum for over 30 years. At St Fagans there was a presentation by Nia Williams Director of Public Programs at Amgueddfa Cymru and we got a real taste of how the place operates behind the scenes. It was also clear to us and the crew that Pembrokeshire Record Office is a huge asset to the people of the County. Cait led the group on a Behind the Scenes tour at Scolton Manor, Cait had a wealth of information about the manor and the families who lived there. A very special place!

Parti Gwrando – Listening Party @ Tafarn Sinc

Ar Nos Sadwrn Tachwedd 6ed cynhaliwyd digwyddiad gan Celfyddydau Span a PLANED parti gwrando arbennig yn Nhafarn Sinc ar gyfer penllanw’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd – The Song of the Golden Road a arianwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Rydyn ni’n falch o bawb sydd wedi cyfrannu at y faled yr oedd rhai ohonyn nhw’n bresennol ddydd Sadwrn gan gynnwys Shelley Morris, Simon Chatterley, James Purchase, Carolyn Waters, Hefin Wyn, Peter Claughton, Sharon Carter, Sally Morris, Huw Jones a’n cynhyrchydd baledi Paul Evans. Diolch i Stacey Blythe am osod awyrgylch berffaith ar gyfer y noson gyda’i chanu hyfryd i gyfeiliant y delyn.  Mae ‘na rhywbeth hudol bod yn dyst i wyneb eich cyfaill yn gwrando’n astud!
On Saturday 6th November Span Arts and PLANED hosted a listening party event at Tafarn Sinc for the culmination of the heritage lottery funded project Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road.
We’re proud of all those who’ve contributed to the ballad some of whom were present on Saturday including Shelley Morris, Simon Chatterley, James Purchase, Carolyn Waters, Hefin Wyn, Peter Claughton, Sharon Carter, Sally Morris, Huw Jones and our ballad producer Paul Evans. Thanks also to Stacey Blythe whose beautiful folk singing to harp arrangement set the tone for this intimate evening so perfectly. There’s something magical about being witness to another’s face attentively listening!

I WRANDO /  LISTEN HERE :

Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road

Ar ôl haf o sgyrsiau a theithiau cerdded llawn gwybodaeth yn ardal y Preselau, mae’r faled radio Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road yn barod o’r diwedd ar gyfer ei darllediad cyhoeddus cyntaf.  Bydd y rhaglen radio dwyieithog ar-lein, awr o hyd, hon yn cael ei lansio yn Nhafarn Sinc ar y 6ed o Dachwedd 2021. 

Mae’r prosiect Cân y Ffordd Euraidd wedi creu baled radio mewn ymateb i Ein Cymdogaeth Werin o Grymych i Gwm Gwaun.  Mae’r prosiect wedi cymryd ffurf cyfres o weithdai a theithiau cerdded o’r cymunedau sydd yn byw wrth droed y Preselau gan gloi gyda thaith gerdded gymunedol ar hyd y Ffordd Euraidd ei hun- dyma’r enw a roddir i lwybr troed hynafol sy’n tramwyo crib saith milltir mynyddoedd y Preselau o Foel Drygarn i Fwlch Gwynt.  Roedd y sesiynau hyn yn dilyn y gwahanol themâu o neolithig, amaeth, addysg, crefydd a diwydiant ac roedd yn gyfle i ddod i adnabod y lle o wahanol bersbectifau, wrth ddarganfod a chwilota i’r ‘pethe’ sy’n bwysig i bobl am y lle.  

Dywedodd Sophie Jenkins, sydd wedi  gweithio fel Swyddog Ymgysylltu a’r Gymuned gyda’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin am y tair blynedd diwethaf, hyn am y gweithdai: “Un o’r pethau dwi wedi mwynhau fwyaf am y gweithdai yw’r cyfleoedd i ail-ymweld ag elfennau gwirioneddol unigryw ein treftadaeth a’n diwylliant yn ardal Preseli a’r holl haenau hynny sy’n gorgyffwrdd ac yn adeiladu llun o’r lle, o’r ymdeimlad hwnnw o le ac o fyw mewn ardal.”  

Roedd teithiau cerdded y gweithdai yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr gwadd, cyfleoedd i gyfnewid straeon, a recordio seiniau. Mae’r faled yn cynnwys lleisiau’r rhai a gyfrannodd sgyrsiau i weithdai’r prosiect gan gynnwys yr haneswyr Martin Johnes, Hefin Wyn a Hedydd Hughes, ynghyd â sgyrsiau cyfranogwyr y gweithdy mewn ymateb i’r sgyrsiau a gynhaliwyd ar y teithiau cerdded ac yn gysylltiedig â’r daith gerdded olaf ar hyd y Ffordd Euraidd ei hun.  Casglwyd deunydd arall trwy gyfarfod â grŵp hanes lleol Bwlch Y Groes a hwyluswyd gan Hedd Harries sy’n aelod o’r grŵp a hefyd yn gweithio fel gweinyddwr ar y prosiect Ein Cymdogaeth Werin.  Mae’r faled hefyd yn cynnwys cyfweliadau a gynhaliwyd gan Huw Jones gyda ffermwyr lleol a gweithwyr tir trwy brosiect ynni adnewyddadwy Cwm Arian, ‘Growing Better Connections’. 

Dilynodd y crwydradau yma gan benwythnos dwys o gerddora dan arweiniad y cyfansoddwr a cherddor Stacey Blythe pan wahoddwyd cyfranogwyr i roi llais i ganeuon y lle.  Fel y nododd drymiwr a chyfranogwr y prosiect Shelley Morris, “Fe roddodd hyder i mi greu, i greu mwy o bethau am y Preselau, i greu mwy o gelf, mwy o gerddoriaeth, mwy o farddoniaeth. Roedd yn ysbrydoledig iawn i mi. ”  Carolyn Waters, “Pan ymunais â’r prosiect, y prif beth yn fy meddwl oedd y gerddoriaeth ond rwyf wedi mwynhau’r cyfan yn fawr, gan ddysgu am yr ardal ac yna yn enwedig y daith gerdded ar y ffordd euraidd, Foel Drygarn i Foel Cwm Cerwyn, anhygoel, gwych – teimlad da.”  Mae llais, sain a chân wedi eu hymgorffori i’r faled radio derfynol i greu cofnod llafar o le unigryw, un y bydd y cenedlaethau i ddod yn gallu ei werthfawrogi a’i fwynhau am flynyddoedd yn y dyfodol. 

Dywedodd cynhyrchydd y faled Paul Evans, cyn-gynhyrchydd gyda’r BBC, hyn am y prosiect, “Mae fy ngwreiddiau ym Mynachlog Ddu ac rydw i wir yn cysylltu â’r ardal hon.  Mae’n hyfryd dod yn ôl i ddysgu am yr ardal – y pethau a ddywedwyd wrthym gan ein neiniau a’n teidiau ond na chymerasom unrhyw sylw ar y pryd – rwyf wedi bod yn dod i’r ardal hon ers 64 mlynedd. 64 mlynedd yn ôl gallem fod wedi gwneud y rhaglen hon a byddai’n hollol wahanol. Fe allech chi wneud hyn bob deng mlynedd a bydd fel capsiwl amser i amser a lle – mae’n dangos sut mae cymuned yn tyfu ac yn newid”

Daeth elfennau cyfranogol y prosiect i ben gyda digwyddiad Côr Unnos yn Rhosygilwen ar 3 Hydref pan ddaeth côr ynghyd i ddysgu a recordio ‘Y Tangnefeddwyr’, gosodiad o gerdd Waldo Williams gan y cyfansoddwr Eric Jones. Dywedodd arweinydd y côr, Margaret Daniel, am y digwyddiad, “Dewis perffaith o eiriau a cherddoriaeth ar gyfer rhaglen fel hon.” 

Gwahoddir yn gynnes y rhai sydd wedi cyfrannu at greu’r gwaith ac unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i wrando.  Bydd y gantores a cherddor Stacey Blythe yn ymuno â ni eto a  hi fydd yn cychwyn y noson gyda set o ganeuon gwerin lleol i Sir Benfro. Bydd y Faled ei hun yn cael ei darlledu yn y dafarn o 8yh pan gewch eich gwahodd i gasglu o amgylch y tân fel yn y dyddiau gynt i wrando ar straeon a chaneuon y Ffordd Euraidd. 

Os na allwch  ymuno ar y noson bydd y faled hefyd ar gael o 8yh trwy blatfform AM Cymru https://amam.cymru/spanarts 

Mae Cân y Ffordd Euraidd wedi cyflawni gan Gelfyddydau Span a Rowan O’Neill mewn partneriaeth gyda PLANED fel rhan o’r prosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

After a summer of informative talks and walks in the Preseli area the radio ballad Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road is finally ready for its first public broadcast.  This hour-long online bilingual radio programme will be launched at Tafarn Sinc on the 6th November.  

Cân y Ffordd Euraidd / The Song of the Golden Road has created a radio ballad in response to the Preseli Heartlands from Crymych to Cwm Gwaun.  The project has taken the form of a series of workshops and walks from the communities that reside at the foot of the Preselis, concluding with a community walk along the golden road, a name for the ancient trackway which traverses the seven-mile ridge of Mynydd Preseli (the Preseli Mountains) from Foel Drygarn to Bwlch-Gwynt.  The  workshops followed different themes from the Neolithic, agriculture, education, religion and industry and were an opportunity to get to know the place from different perspectives and to find out what is important to people about this place. 

Sophie Jenkins Community Engagement Officer with the Ein Cymdogaeth Werin project had this to say about the workshops, “One of the things I’ve enjoyed most about the workshops are the opportunities to keep re-visiting the really unique elements of our heritage and culture in the Preseli area and all of those layers that overlap and build a picture of the place, of that sense of place, of living in an area.” 

The workshop walks included talks by invited experts, opportunities for story swapping and sound recording.  The Ballad features the voices of those who contributed talks to the project workshops including the historians Martin Johnes, Hefin Wyn and Hedydd Hughes as well as workshop participants’ conversations in response to the talks that took place on the accompanying walks and the final walk along the golden road itself.  Other material was collected through a meeting with Bwlch Y Groes local history group facilitated by group member and PLANED Ein Cymdogaeth Werin administrator Hedd Harries and interviews undertaken by Huw Jones with local farmers and land workers through the Cwm Arian Renewable energy project Growing Better Connections. 

Workshop and ramblings were followed by an intensive weekend of music-making led by composer and musician Stacey Blythe where participants were invited to give voice to the songs of the place.  As Shelley Morris drummer and project participant stated, “It gave me a confidence to create, to create more things about the Preselis, to create more art, more music, more poetry.  I found it deeply inspiring.”  For Carolyn Waters, “When I joined the project uppermost in my mind was the music but I’ve thoroughly enjoyed it all, learning about the area and then especially the golden road walk Foel Drygarn to Foel Cwm Cerwyn, amazing, fantastic and such a good feel.”  Speech, sound and song have been incorporated into the final radio ballad, an oral record of a unique place, that future generations can continue to appreciate and enjoy for years to come. 

Ballad producer former BBC radio producer Paul Evans says of the project, “I’ve been coming to this area for 64 years.  64 years ago we could have made this programme and it would be completely different.  You could do this every ten years and it will be like a time capsule to a time and place – it shows how a community grows and changes and morphs into something else.”   

The participatory elements of the project concluded with a scratch choir event at Rhosygilwen on the 3rd October where a choir came together to learn and record Y Tangnefeddwyr a setting of Waldo Williams’ poem by the composer Eric Jones.  The choir leader Margaret Daniel said of the event, “A perfect choice of words and music for a programme like this.” 

Those who have contributed to the work’s creation and anyone who has an interest are warmly invited to come to listen.  We will be joined again by singer and musician Stacey Blythe who will kick off the evening with a set of local Pembrokeshire folk songs.  The Ballad itself will be broadcast in the pub from 8pm when you are invited to huddle round the fire as in days of old to listen to the stories and songs of the Golden Road. 

If you aren’t able to make it on the night the ballad will also be available from 8pm through the AM Cymru platform https://amam.cymru/spanarts 

The Song of the Golden Road has been delivered by Span Arts and Rowan O’Neill in partnership with PLANED as part of the National Lottery Heritage Funded Ein Cymdogaeth Werin Preseli Heartlands project.   

Gwrthryfel Glyndŵr yn y Gorllewin

Cynhaliwyd sgwrs hynod o ddiddorol yn Neuadd Goffa Trefdraeth ar dydd Sadwrn 23 Hydref yng nghwmni Gareth Jones o Gymdeithas Owain Glyndŵr.
Diolch i Gareth am deithio lawr i Sir Benfro! Gwnaeth pawb mwynhau clywed hanes Gwrthryfel Glyndŵr yn y Gorllewin!
A very interesting talk was held at Newport Memorial Hall on Saturday 23 October with Gareth Jones of the Owain Glyndwr Society.
Thank you Gareth for traveling down to Pembrokeshire! Everyone enjoyed hearing the story of Glyndŵr’s Rebellion in the West!

Dark Skies

Diolch i Dark Sky Wales a Deborah Winter am noson hyfryd yn Castell Henllys Iron Age Village yn mis Hydref.
Roedd y cymylau yn niwsans! Fodd bynnag, gwelsom cipolwg ar y sêr, Jupiter hefyd, a welom y Lleuad yn pipo ‘fyd; fe wnaethom hefyd fwynhau straeon hudol trwy olau tân, a chawsant sgwrs wych gan Allan Trowe ynghyd â’i delesgop! Diolch hefyd i Tomos Jones APCAP am roi blas i ni o’r llefydd gorau i ymweld â nhw yn Sir Benfro i weld awyr y nos.

Thanks to Dark Sky Wales and Deborah Winter for a lovely evening at Castell Henllys Iron Age Village in October.

The clouds were a nuisance! However, we saw glimpses of the stars, also Jupiter, we saw the Moon peeping too ; we also enjoyed magical stories around the  fire, and had a great talk from Allan Trowe along with his telescope! Thanks also to PCNPA’s Tomos Jones for giving us a taste of the best places to visit in Pembrokeshire to see the night sky.

Gweithdai cerddoriaeth Can y Ffordd Euraidd – Song of the Golden Road music workshops

Waw! Am benwythnos creadigol, emosiynol a llawn hwyl ag egni yng nghwmni Stacey Blythe dros y 25 a 26 o Fedi – pwerdy talentog cerddorol, llawn brwdfrydedd a wnaeth bywiogi’r grŵp lleol o gerddorion i berfformio a recordio sawl chan gyda’i gilydd yn ystod y ddau ddiwrnod yn Neuadd Maenclochog; wedi ei ysbrydoli gan y Preseli. Mi fydd y gerddoriaeth a recordiwyd yn cael ei gymysgu i mewn i’r faled radio, fydd yn barod i’w lansio yn fis Tachwedd! Diolch yn dalpau fel arfer i Rowan O’Neill o Span Arts am drefnu’r penwythnos. Gyda diolch arbennig hefyd i Paul Evans a Jake Whittaker – ein tîm cynhyrchu ar gyfer y faled radio, ac wrth gwrs – y cerddorion lleol gwirfoddol a fynychodd y sesiynau!
Hefyd fe drefnwyd Côr Unnos yn dysgu a recordio Y Tangnefeddwyr gan Waldo Williams dydd Sul 3ydd Hydref yn Rhosygilwen, wedi’n harwain gan Margaret Daniel gyda Rhidian Huw Evans yn cyfeilio. Diolch i bawb a ddaeth ynghyd i ddysgu’r gan a’i recordio mewn prynhawn! Da iawn wir. Dwy’n siŵr bod ni gyd yn edrych ‘mlaen clywed y Faled Radio gorffenedig yn fis Tachwedd!

Wow! For a creative, emotional and fun-filled weekend with Stacey Blythe over the 25th and 26th of September – a talented, enthusiastic musical powerhouse who enlivened the local group of musicians to perform and record several songs together during the two days at Maenclochog Hall; inspired by the Preseli. The recorded music will be mixed into the radio ballad, ready for launch in November! A big thank you to Rowan O’Neill of Span Arts for organizing the weekend. With special thanks also to Paul Evans and Jake Whittaker – our production team for the radio ballad, and of course – the volunteer local musicians who attended the sessions!

The  teaching and recording The Peacemakers by Waldo Williams was also organized on Sunday 3rd October at Rhosygilwen, led by Margaret Daniel and accompanied by Rhidian Huw Evans. Thank you to everyone who came together to learn the song and recorded it in an afternoon! Well done indeed. I’m sure we’re all looking forward to hearing the finished Radio Ballad in November!

Teithiau Waun Mawn Tours

Gwnaeth grŵp bach o bobl ddewr mentro mas yn y glaw wythnos diwethaf i edrych o gwmpas y safle oes y cerrig yn Waun Mawn, ac i gael mewnwelediad unigryw i rai o’r damcaniaethau diweddaraf am y safle gan Mike Parker Pearson, o Adran Archeoleg UCL.
Arweiniwyd y grŵp gan yr archeolegydd cymunedol o Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Tomos Jones, yn y daith arbennig hon fel rhan o brosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli sy’n cael ei ddarparu gan PLANED a’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
A small number of people braved the Preseli weather last week to take a look around the stone age site at Waun Mawn, and given an exclusive insight into some of the latest theories about the site by UCL Institute of Archaeology’ Mike Parker Pearson.
The group was led by Pembrokeshire Coast archaeologist Tomos Jones in this special tour as part of the Ein Cymdogaeth Werin Preseli Heartlands Communities project being delivered by PLANED and funded by Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund – Cymru.

Y Ffordd Euraidd – The Golden Road

Wel, yn ddiweddar fuom ar daith o tua 8 milltir wedi’n tywys gan Ewan Rees o VIP Wales ar draws y Ffordd Euraidd – sef y trac ar hyd top y Preselau. Yn dechrau o Foel Drygarn, ac yn benni bant ym Mwlch Gwynt – yn cynnwys cyrraedd top Foel Cwm Cerwyn weth.
Wedd y tywydd yn berffaith, a chafwyd sawl sgwrs hynod ddiddorol ar hyd y daith. Cawsom ein cyfarch hefyd gan Ysbryd Preseli tra ar ein teithiau – ffigwr mewn clogwyn, yn ein drymio ymlaen ac yn lledaenu eu neges o Heddwch a Chariad ar draws y mynyddoedd (gweler post ar wahân ar gyfer y cyfarfod hudol hwn).
Diolch i bawb a wnaeth ymuno a ni, a hefyd Rowan O’Neill Span Arts sydd wedi bod yn rheoli ac yn trefnu’r elfen yma o’r prosiect.
Well, recently we went on an 8-mile tour led by Ewan Rees of VIP Wales across the Golden Road – the track along the top of Mynydd Preseli. Starting from Foel Drygarn, and finishing off at Bwlch Gwynt – including reaching the top of Foel Cwm Cerwyn.
The weather was perfect, and there were many interesting conversations along the way. We were also greeted by Ysbryd Preseli whilst on our travels – a cloaked figure, drumming us along and spreading their message of Peace & Love across the mountains (see separate posts for this magical meeting).
Thank you to everyone who joined us, and also Rowan O’Neill Span Arts who managed and organized this element of the project.

Haf o ddarganfodd y Ffordd Euraidd… A Summer of discovering the Golden Road

Mae hi wedi bod yn Haf prysur i PLANED & Span Arts wrth iddyn nhw gydweithio i gyflwyno gweithdai treftadaeth gymunedol Can y Ffordd Euraidd fel rhan o brosiect Ein Cymdogaeth Werin Preseli, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Recordiwyd y gweithdai hyn, a byddant yn cael eu trawsnewid fel allbwn terfynol – sef Baled Radio. Disgwylir iddo lansio yn ddiweddarach yn yr Hydref!


Adroddodd post blaenorol ar y blog am gweithdy cyntaf a gynhaliwyd ym Mrynberian, ar thema’r megalithig gyda Robin Heath. Mae’r gweithdai sydd wedi dilyn dros yr Haf wedi cynnwys – Crymych, lle gwnaethom ganolbwyntio ar amaethyddiaeth ac ecoleg rhanbarth Preseli. Mwynhaodd y grŵp gyflwyniad yn Neuadd y Farchnad yn y bore, ac yna taith gerdded o Crymych i Foel Drygarn. Ymunodd Mary Chadwick, swyddog cadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro â ni i rannu sut mae ardal Preseli yn cael ei rheoli o ran pori ar gyfer bioamrywiaeth. Ymunodd Arwel Evans Pensarn, Swyddog Cyswllt Ffermio y Parc â ni mewn ysbryd – gan anfon cyflwyniad atom o’r ffordd y mae’r myny’ yn cael ei reoli, gan gynnwys llosgi ac atal tân gwyllt. Rhannodd Swyddog Prosiect, Sophie Jenkins, ei hatgofion teuluol ei hun o ffermio defaid ar y myny’, a’r broses o Hafod/Hendre gan gynnwys symud defaid Preseli i maes tanio Castellmartin.


Nesaf ymwelon ni â Hermon a chanolbwyntio ar Addysg, lle ymunodd yr Athro Martin Johnes â ni – cyn-ddisgybl yn Ysgol Hermon a roddodd gyflwyniad hynod ddiddorol inni am addysg Gymraeg a Saesneg yn yr ardal leol ers yr 1900au; lle gwnaethom ddysgu y gall iaith drechu mewn ardal dim ond pan fydd hefyd yn iaith lafar gymunedol, nid dim ond iaith a addysgir yn yr ystafell ddosbarth. Gwers bwysig iawn i ni yng Nghymru heddiw wrth i ni geisio hyrwyddo a chynyddu nifer siaradwyr yr hen iaith. Yn dilyn sgwrs Martin, rhoddodd Cris Tomos gipolwg ysbrydoledig hefyd ar sut y daeth Canolfan Hermon i fod – yn dilyn y protestiadau niferus, apeliadau llys a brwydro cymunedol i gadw’r ysgol gynradd annwyl rhag cau ei drysau. Yn y prynhawn, aeth y grŵp am dro bach o amgylch Hermon a Bwlch y Dwr, lle cerddodd plant yr ysgol fel rhan o astudiaethau dosbarth.


Fe ymwelon ni â Mynachlogddu nesaf i ganolbwyntio ar Grefydd a Heddwch – hwn ar un o ddyddiau poethaf y flwyddyn. Hefin Wyn, yr arbenigwr lleol a arweiniodd ni ar y siwrnai hon. Treuliwyd y bore yn Capel Bethel, lle cawsom ddarlith drylwyr ar hanes crefyddol lleol a chael cyfle i ymweld â beddau niferus unigolion lleol adnabyddus – gan gynnwys Twm Carnabwth a W.R Evans. Treuliwyd y prynhawn yn dysgu am Waldo a beirdd yr ardal o amgylch y garreg goffa, cinio o dan Tal Mynydd neu Y Garn fel y’i gelwir yn lleol, ymweliad â ty unnos “Carnabwth” cartref Tomos Rees, a phererindod i Glynsaithmaen lle gwnaethom sefyll yn yr un ysgubor lle cychwynnodd sylfeini’r mudiad Merched Beca – dywed Hefin wrthym fod y llwch yr un peth o hyd! Fe wnaethon ni hefyd ddysgu am Brwydr y Preselau a’r gweinidogion a helpodd i atal y fyddin rhag troi ein bryniau annwyl yn faes hyfforddi milwrol.


Nesaf ymwelon ni â Rhosybwlch lle gwnaethon ni ddysgu mwy am ochr ddiwydiannol ardal Preseli. Arweiniodd Dr Peter Claughton o Morvil gerllaw ni ar yr alldaith hon – ac alldaith oedd hi wir! Yn y bore mwynhaodd y grŵp gyflwyniad y tu mewn i babell fawr Tafarn Sinc. Yn ystod y prynhawn cychwynnodd y prif grŵp ar ymweliad â’r chwarel o dan Foel Cwm Cerwyn – i lawer, hwn oedd eu hymweliad cyntaf â’r rhan hon o’r myny’. Mae cyrraedd yno yn cynnwys mynd bant o’r trac ar thir garw, ond roedd yn werth chweil profi’r dreftadaeth hon ac wrth gwrs y golygfeydd o’r dirwedd o amgylch! Cawsom hyd yn oed gweld Cydull Bach (Merlin) ger y chwarel – h.y. aderyn ysglyfaethus lleiaf y DU. Ymwelodd eraill o’r grŵp a oedd am gael taith gerdded ysgafnach â chwareli ac adfeilion Rhosybwlch. Mwynhawyd peint haeddiannol yn y Sinc wedyn!


Cynhaliwyd ein gweithdy cymunedol olaf yn y gyfres hon yn y Cwm Gwaun. Roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar Ddiwylliant y Preseli – ac yn lle taith gerdded yn y prynhawn, fe wnaethon ni fwynhau gwrando ar hen recordiau o gorau a bandiau’r ardal leol, gyda digon o de a bisgedi. Arweiniwyd y sesiwn hon gan Hedydd Hughes, sy’n dysgu yn Ysgol Llanychllwydog ac sydd â gwybodaeth helaeth o’r dreftadaeth, y diwylliant a’r tafodiaith lleol (er gwaethaf dweud ei bod hi’n rhoces o’r dre, o Abergwaun). Fe wnaethon ni ddysgu mwy am draddodiadau fel Hen Galan a Canu Pwnc. Fe wnaeth Hedydd hefyd ein harwain mewn cwpl o ganeuon – gan gynnwys “Milgi Milgi” a daeth ag arddangosfa wych o arteffactau, llyfrau ac eitemau lleol o ddiddordeb. Ymunodd y Parcmon Richard Vaughan hefyd, brodor o Cwm Gwaun a wnaeth rhannu ei atgofion o fyw yn y cwm.


Felly – beth sydd nesaf? Wel, nesaf daw taith ar hyd y Ffordd Euraidd ynghyd a’r gerddoriaeth! Mae’r tîm yn fishi’n trefnu sesiynau a fydd ar agor i’r gymuned eu mynychu ym mis Medi. Os ydych chi’n gerddor neu’n ganwr lleol ac yr hoffech ymuno yna cysylltwch â ni. Cadwch lygad ar dudalen ffesbwc Ein Cymdogaeth Werin, neu e-bostiwch sophie.jenkins@planed.org.uk i gael mwy o wybodaeth.

———————————————————————————————-

It’s been a busy Summer for PLANED & Span Arts as they collaborated in delivering the Song of the Golden Road community heritage workshops as part of the Ein Cymdogaeth Werin Preseli project, funded by the National Lottery Heritage Fund. These workshops were recorded, and will be transformed into the final output – which will be a Radio Ballad. Set to launch later in the Autumn!


A previous blog post reported on the first workshop that was held in Brynberian, on the theme of the megalithic with Robin Heath. The workshops that have followed over the Summer have included – Crymych, where we focused on agriculture and the ecology of the Preseli region. The group enjoyed a presentation in the Market Hall in the morning, followed by a walk from Crymych to Foel Drygarn. Mary Chadwick, the conservation officer for Pembrokeshire Coast National Park joined us to share how the Preseli area is managed in terms of grazing for biodiversity. Arwel Evans Pensarn, National Park’s Farming Liaison Officer also joined us in spirit – sending us a presentation of the way the hill is managed, including burning and wild fire prevention. Project Officer Sophie Jenkins also shared her own family memories of sheep farming on the hills, and the process of transhumance including the movement of Preseli sheep to Castlemartin firing range.


Next we visited Hermon and focused on Education, where we were joined by Professor Martin Johnes – a past pupil of Ysgol Hermon who provided us a fascinating presentation into Welsh and English language education in the local area since the 1900s; where we learnt that a language can only prevail in an area when it is also a community spoken language, not just a language taught in the classroom. A very important lesson for us in present day Wales as we seek to promote and increase the number of speakers of the old language. Following Martin’s talk, Cris Tomos also gave an inspirational insight into how Canolfan Hermon came to be – following the many protests, courtroom appeals and community battling to keep the beloved primary school from closing its doors. In the afternoon, the group took a short walk around Hermon taking in Bwlch y Dwr where the school children walked as part of classroom studies.


We visited Mynachlogddu next to concentrate on Religion & Pacifism – this on one of the hottest days of the year, very rare weather for ‘Nachlogddu. Well-known local expert and enthusiast Hefin Wyn led us on this journey. The morning was spent in Capel Bethel, where we received a thorough lecture on the local religious history and had an opportunity to visit the numerous graves of well known local individuals – including Twm Carnabwth and W.R Evans. The afternoon was spent learning about Waldo and the poets of the area around the memorial stone, lunch under Tal Mynydd or Y Garn as known locally, a visit to the ty unnos of “Carnabwth” the home of Tomos Rees, and a pilgrimage to Glynsaithmaen where we stood in the very same barn where the foundations of the Merched Beca movement began – Hefin tells us the dust is still the same! We also learnt about the Brwydr Preseli and the ministers that helped stop the ministry of defence turning our beloved hills into a military training ground.


Next we visited Rhosybwlch where we learnt more about the industrial side of the Preseli area. Dr Peter Claughton of nearby Morvil led us on this expedition – and expedition it was! In the morning the group enjoyed a presentation inside the marquee of Tafarn Sinc. During the afternoon the main group embarked on a visit to the quarry underneath Foel Cwm Cerwyn – for many, this was their first visit to this area of the hill. To get there involves some off-roading and rough terrain, but it was worth it to experience this heritage and of course the views of the surrounding landscape! We were even treated to a sighting of a Merlin near the quarry – a Merlin being the UK’s smallest bird of prey. Others from the group that wanted a gentler walk visited the quarries and ruins of Rosebush.


Our final community workshop in this series was held in the Cwm Gwaun. This session was focused on the Culture of the Preseli – and instead of an afternoon walk, we enjoyed listening to old records of choirs and bands of the local area, with plenty of tea and biscuits. This session was led by Hedydd Hughes, who teaches at Ysgol Llanychllwydog and has a vast knowledge of the local heritage, culture and tafodiaith (despite saying that she is a townie from Abergwaun). We learnt more about traditions such as Hen Galan and Canu Pwnc. Hedydd also led us in a couple of songs – including “Milgi Milgi” and brought with her a fantastic display of artefacts, books and local items of interest. National Park Ranger and Cwm Gwaun native Richard Vaughan also joined us, and shared his memories of living in the valley.


Therefore – what’s next? Well, next comes the walk along the Golden Road followed by the music! The team are busily arranging sessions which will be open to the community to attend in September. If you’re a local musician or singer and would like to come along then please get in touch. Keep an eye on the Ein Cymdogaeth Werin facebook page, or email sophie.jenkins@planed.org.uk for more information.