Slam Barddoniaeth Y – Preseli – Poetry Slam

Our Poet in Residence Karen Owen has completed two weeks in the Preseli region thus far as part of our Poetry Slam workshops with Span Arts! She has worked with local primary and secondary schools, conducted 1:2:1 sessions with isolated and vulnerable members of the community and lead open community workshops. We are now working towards our final week of Karen’s residency during July with a community workshop on the 16th July in Brynberian as well as the final Poetry Slam event on the 19th July in Newport. For more information please contact sophiej@planed.org.uk.

Mae ein Bardd Preswyl Karen Owen wedi cwblhau pythefnos yn rhanbarth y Preseli hyd yma fel rhan o’n gweithdai Slam Barddoniaeth gyda Span Arts! Mae hi wedi gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, wedi cynnal sesiynau 1: 2: 1 gydag aelodau ynysig ac agored i niwed o’r gymuned ac wedi arwain gweithdai cymunedol agored. Rydym nawr yn gweithio tuag at ein hwythnos olaf o breswyliad Karen yn ystod mis Gorffennaf gyda gweithdy cymunedol ar 16 Gorffennaf ym Mrynberian yn ogystal â’r digwyddiad Barddoniaeth terfynol ar 19 Gorffennaf yn Nhrefdraeth. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â sophiej@planed.org.uk.

Lansio Arddangosfa Pwytho Straeon – Stitching Stories Exhibition Launch

Mae Celfyddydau Span wedi bod yn cyflwyno Pwytho Straeon, elfen gyffrous o’r Prosiect Ein Cymdogaeth Werin ers mis Medi 2018, ac mae’r gwaith terfynol bellach yn dod at ei gilydd.

Span Arts have been delivering our exciting Stitching Stories element of the Preseli Heartlands Project since September 2018, and at long last a vision of the final work is coming together.

Mae’r gweithdai pwytho a gynhaliwyd ym Maenclochog wedi denu amrywiaeth wych o bobl o bob cenhedlaeth. O drigolion hirsefydlog a chymeriadau lleol gyda straeon mawr i’w hadrodd a hen luniau angof i’w rhannu; i newydd-ddyfodiaid sy’n cwympo mewn cariad â’r dirwedd hardd a dysgu mwy am ei threftadaeth gyfoethog. Mae plant lleol hefyd wedi cymryd rhan, gan gynnwys disgyblion Ysgol Gynradd Maenclochog sydd wedi bod yn dod i’r sesiynau ar brynhawniau Gwener pan fydd yr ysgol yn cau’n gynnar. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, roedd yna sesiwn arbennig hefyd ar “Bwytho dy Stori” yn cynnig cyfle i blant ac oedolion greu darn o waith celf yn archwilio eu cysylltiad â’r ardal.

The “Stitch Labs” workshops held in Maenclochog have engaged a fantastic cross generational mix of Preseli people. From long standing residents and local characters with tall tales to tell and old forgotten photographs to share; to newcomers of the area which are falling in love with the beautiful landscape and learning more about its rich heritage. Local children have also been involved, including pupils of Maenclochog Primary School who have been attending on Friday afternoons when the school closes early. During the October half term there was also a special “Stitch Your Story” all day session in which children and adults had an opportunity to create a special stand-alone piece of artwork exploring their connection to the area.

Y briff oedd creu “cwilt” neu dapestri digidol rhyngweithiol gyda chymunedau’r Preseli – gan gyfuno elfennau tecstilau a’r casgliad o straeon a dyfyniadau lleol a gofnodwyd. Yn ystod y gweithdai, cafodd y rhai a oedd yn bresennol y cyfle i arbrofi gyda gwahanol decstilau a thechnegau i greu eu cyfraniad nhw wedi’i ysbrydoli gan y Preseli. Cafodd ffotograffau a mapiau eu sganio a’u hargraffu ar ddefnyddiau, gydag addurniadau’n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach. Casglwyd elfennau botanegol o blanhigion brodorol i’r ardal gyfagos a’u defnyddio i archwilio ffurf a gwead.

The brief was to create an interactive digital “quilt” or tapestry with the Preseli communities – combining textile elements and the collection of recorded local stories and quotes. During the workshops, attendees had the chance to experiment with different textiles and techniques to create their Preseli inspired contribution. Photographs and maps were scanned and printed onto fabrics, with embellishments added later. Botanical elements of plants native to the surrounding area were collected and used to explore form and texture.

Mae’r gweithdai wedi amlygu’r cysylltiad dwfn a bythol sydd gan unigolion a chymunedau ag ardal y Preseli – o’r dirwedd ysblennydd, i arferion ffermio, i feini hirion, nodweddion cynhanesyddol a’i phobl.   Mae yna lawer o haenau o ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog, unigryw ac amrywiol yn yr ardal. Wrth symud ymlaen â’r Prosiect Ein Cymdogaeth Werin, mae’n sicr wedi helpu cymunedau i ddechrau meddwl am eu treftadaeth arbennig, a ffyrdd i’w dehongli a’i chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

The workshops have highlighted the deep and everlasting connection that individuals and communities have with the Preseli area – from the breathtaking landscape, to farming practices, to standing stones and prehistoric features and to the people held within; there are many layers of rich, unique and diverse culture and heritage within the heartlands area. Going forward with the Preseli Heartlands Project it has certainly helped light the way for communities to begin thinking more about their special heritage, and ways in which to interpret and preserve it for future generations.

 

Cynhelir lansiad arddangosfa’r cwilt ar 31 Ionawr rhwng 7 a 9pm yn Neuadd Gymunedol Maenclochog, gyda’r arddangosfa ar gael i’w gweld rhwng 1 a 7 Chwefror rhwng 10am a 4pm. Rydym yn estyn croeso cynnes i bawb ac yn edrych ymlaen at rannu’r gwaith celf a’r straeon a gasglwyd.

The exhibition launch of the quilt will be held on the 31 January from 7-9pm in Maenclochog Community Hall, with the exhibition available to view thereafter from the 1 – 7 February from 10-4pm. We extend a warm welcome to all and look forward to unveiling the artwork and listening to the collected stories.

Diolch i dîm Celfyddydau Span a phawb sydd wedi cymryd rhan yn y gweithdai pwytho am eu gwaith caled a’u cyfraniadau i’r prosiect Pwytho Straeon.

Thanks to the Span Arts team and Stitch Labs participants for their hard work and contributions to the Stitching Stories project.

STITCH YOUR STORY THIS FRIDAY 2 NOVEMBER – PWYTHWCH EICH STORI DYDD GWENER YMA 2 TACHWEDD

As part of our “Pwytho Straeon – Stitching Stories” Project we are exploring Preseli life and land through textiles, memory and digital technology.

Fel rhan o Prosiect Pwytho Straeon i ni’n archwilio bywyd a cymeriadau y Preseli trwy’ defnyddio tecstiliau, atgofion a technoleg digidol.

Make a micro wall-hanging to tell your Preseli Heartlands story: print, paint, stitch or embellish a textile tale. Perhaps you’re from a family which has been here for generations, or maybe you moved here a few months ago? This is your chance to create something which tells us about your connection to this extraordinary place.

Fe fydd siawns i greu croglun micro i ddweud eich stori o’r Fro, gan ddefnyddio paent, argraffu neu pwytho. Os i chi wedi byw yma am oes, neu newydd wedi symud i’r ardal dyma eich siawns i greu darlun o’ch cysylltiad i’r lle arbenning yma.

The workshop is FREE and suitable for individuals and families. Bring lunch. No need to book

Mae’r gweithdy AM DDIM ac yn addas ar gyfer plant ac oedelion. Dewch a cinio. Dim angen bwcio.

2 November

2 Tachwedd

10-4 Drop in (2 hours needed to complete artwork – angen amser o 2 awr i cwblhau’r gwaith)

Maenclochog

rowan@span-arts.org.uk