Cwilt Digidol yn Nhrefdraeth – Digital Quilt on display in Newport

Mae’r Cwilt Digidol yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Gymunedol / Canolfan Groeso Trefdraeth am amser byr.

Diwrnodau agor i’w ymweld :

  • Dydd Llun 9.30 – 12.30
  • Dydd Mercher 12.30 – 6
  • Dydd Gwener 10 – 2
  • Dydd Sadwrn 9.30 – 12.30

The Digital Interactive Quilt is now being exhibited at Newport Community Library / Welcome Centre for a short time .

Opening days to visit :

  • Mondays 9.30 – 12.30
  • Wednesdays 12.30 – 6
  • Fridays 10 – 2
  • Saturdays 9.30 – 12.30

Stitching Stories Recordings – Recordiau Pwytho Straeon

Please see the below SoundCloud Player to listen to all recordings collected during the Stitching Stories sessions held from September 2018 – January 2019.

Special thanks to artist penny d jones for her work on the project.

—————-

Gwelir y Chwareuwr SoundCloud isod i wrando ar yr holl recordiau a gasglwyd yn ystod sesiynau Pwytho Straeon a gynhelir o Fedi 2018 – Ionawr 2019.

Diolch arbennig i’r artist penny d jones am ei gwaith ar y prosiect.

Lansio Arddangosfa Pwytho Straeon – Stitching Stories Exhibition Launch

Mae Celfyddydau Span wedi bod yn cyflwyno Pwytho Straeon, elfen gyffrous o’r Prosiect Ein Cymdogaeth Werin ers mis Medi 2018, ac mae’r gwaith terfynol bellach yn dod at ei gilydd.

Span Arts have been delivering our exciting Stitching Stories element of the Preseli Heartlands Project since September 2018, and at long last a vision of the final work is coming together.

Mae’r gweithdai pwytho a gynhaliwyd ym Maenclochog wedi denu amrywiaeth wych o bobl o bob cenhedlaeth. O drigolion hirsefydlog a chymeriadau lleol gyda straeon mawr i’w hadrodd a hen luniau angof i’w rhannu; i newydd-ddyfodiaid sy’n cwympo mewn cariad â’r dirwedd hardd a dysgu mwy am ei threftadaeth gyfoethog. Mae plant lleol hefyd wedi cymryd rhan, gan gynnwys disgyblion Ysgol Gynradd Maenclochog sydd wedi bod yn dod i’r sesiynau ar brynhawniau Gwener pan fydd yr ysgol yn cau’n gynnar. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, roedd yna sesiwn arbennig hefyd ar “Bwytho dy Stori” yn cynnig cyfle i blant ac oedolion greu darn o waith celf yn archwilio eu cysylltiad â’r ardal.

The “Stitch Labs” workshops held in Maenclochog have engaged a fantastic cross generational mix of Preseli people. From long standing residents and local characters with tall tales to tell and old forgotten photographs to share; to newcomers of the area which are falling in love with the beautiful landscape and learning more about its rich heritage. Local children have also been involved, including pupils of Maenclochog Primary School who have been attending on Friday afternoons when the school closes early. During the October half term there was also a special “Stitch Your Story” all day session in which children and adults had an opportunity to create a special stand-alone piece of artwork exploring their connection to the area.

Y briff oedd creu “cwilt” neu dapestri digidol rhyngweithiol gyda chymunedau’r Preseli – gan gyfuno elfennau tecstilau a’r casgliad o straeon a dyfyniadau lleol a gofnodwyd. Yn ystod y gweithdai, cafodd y rhai a oedd yn bresennol y cyfle i arbrofi gyda gwahanol decstilau a thechnegau i greu eu cyfraniad nhw wedi’i ysbrydoli gan y Preseli. Cafodd ffotograffau a mapiau eu sganio a’u hargraffu ar ddefnyddiau, gydag addurniadau’n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach. Casglwyd elfennau botanegol o blanhigion brodorol i’r ardal gyfagos a’u defnyddio i archwilio ffurf a gwead.

The brief was to create an interactive digital “quilt” or tapestry with the Preseli communities – combining textile elements and the collection of recorded local stories and quotes. During the workshops, attendees had the chance to experiment with different textiles and techniques to create their Preseli inspired contribution. Photographs and maps were scanned and printed onto fabrics, with embellishments added later. Botanical elements of plants native to the surrounding area were collected and used to explore form and texture.

Mae’r gweithdai wedi amlygu’r cysylltiad dwfn a bythol sydd gan unigolion a chymunedau ag ardal y Preseli – o’r dirwedd ysblennydd, i arferion ffermio, i feini hirion, nodweddion cynhanesyddol a’i phobl.   Mae yna lawer o haenau o ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog, unigryw ac amrywiol yn yr ardal. Wrth symud ymlaen â’r Prosiect Ein Cymdogaeth Werin, mae’n sicr wedi helpu cymunedau i ddechrau meddwl am eu treftadaeth arbennig, a ffyrdd i’w dehongli a’i chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

The workshops have highlighted the deep and everlasting connection that individuals and communities have with the Preseli area – from the breathtaking landscape, to farming practices, to standing stones and prehistoric features and to the people held within; there are many layers of rich, unique and diverse culture and heritage within the heartlands area. Going forward with the Preseli Heartlands Project it has certainly helped light the way for communities to begin thinking more about their special heritage, and ways in which to interpret and preserve it for future generations.

 

Cynhelir lansiad arddangosfa’r cwilt ar 31 Ionawr rhwng 7 a 9pm yn Neuadd Gymunedol Maenclochog, gyda’r arddangosfa ar gael i’w gweld rhwng 1 a 7 Chwefror rhwng 10am a 4pm. Rydym yn estyn croeso cynnes i bawb ac yn edrych ymlaen at rannu’r gwaith celf a’r straeon a gasglwyd.

The exhibition launch of the quilt will be held on the 31 January from 7-9pm in Maenclochog Community Hall, with the exhibition available to view thereafter from the 1 – 7 February from 10-4pm. We extend a warm welcome to all and look forward to unveiling the artwork and listening to the collected stories.

Diolch i dîm Celfyddydau Span a phawb sydd wedi cymryd rhan yn y gweithdai pwytho am eu gwaith caled a’u cyfraniadau i’r prosiect Pwytho Straeon.

Thanks to the Span Arts team and Stitch Labs participants for their hard work and contributions to the Stitching Stories project.

Stitching Stories – Pwytho Straeon

Telling tales in the Preseli Heartlands…

Hel Straeon ym Mro’r Preselau…

Over Autumn/Winter 2018 Span Arts and PLANED are working with communities in central Pembrokeshire as part of the Preseli Heartlands project to create a beautiful interactive quilt exploring farming, life on the land and personal connections to the Preseli landscape.

Yn ystod yr Hydref/Gaeaf 2018 mae Celfyddydau Span a PLANED yn gweithio gyda chymunedau yng nghanolbarth Sir Benfro fel rhan o prosiect Ein Cymdogaeth Werin i greu cwilt rhyngweithiol hyfryd yn edrych ar fywyd fferm, byw ar y tir a chysylltiadau personol â thirwedd y Preselau.

There are lots more ways to get involved in the Stitching Stories element of the project, contribute stories and help make a permanent piece of art-work representing the collective memories of the area: ‘Stitch Labs’ will be happening on alternating Friday afternoons in Maenclochog Community Hall led by textile artist Nia Lewis; Span Arts are running an ‘E-textiles’ workshop on Sat 20 October in Narberth with digital artist penny d jones; and ‘Stitch Your Story’ is a workshop for families and children on 2nd November in Maenclochog to create your personal Preseli Heartlands map.

Mae sawl ffordd i ddod yn rhan o elfen Pwytho Straeon y prosiect, cyfrannwch straeon a helpwch greu darn o gelf barhaol yn cynrychioli atgofion ar y cyd yr ardal: cynhelir ‘Gweithdai Pwytho’ bob yn ail brynhawn Gwener yn Neuadd Gymunedol Maenclochog yng ngofal yr artist tecstilau Nia Lewis; mae Celfyddydau Span yn cynnal gweithdy e-decstilau ar Hydref 20fed yn Arberth gyda’r artist digidol penny d. jones; ac mae gweithdy Pwythwch eich Stori ar gyfer teuluoedd a phlant ym Maenclochog ar Dachwedd yr ail i greu eich map personol chi o Fro’r Preselau.

 

The Stitching Stories workshops are free and fully bilingual and you don’t need any previous experience to get involved. To register an interest or book visit www.span-arts.org.uk/whats-on/ or call Span Arts on 01834 869323.

Mae’r gweithdai Pwytho Straeon am ddim ac yn gwbl ddwyieithog ac nid oes angen profiad blaenorol i gymryd rhan. I nodi’ch diddordeb neu i archebu lle, ewch i www.span-arts.org.uk/whats-on neu ffoniwch Celfyddydau Span ar 01834 869323.