A project to help connect Preseli Heartlands communities with the unique heritage of the area has been launched.
Mae prosiect wedi’i lansio i helpu i gysylltu cymunedau Preseli gyda threftadaeth unigryw’r ardal.

The Ein Cymdogaeth Werin – Preseli Heartlands Communities project, led by PLANED will explore how connecting with heritage creatively can contribute to health and wellbeing and provide opportunities for young people through ‘hands-on’ heritage experience. The project was launched on Saturday 13th October at Maenclochog Community Hall. Community archaeologist Delun Gibby, gave a talk and there were opportunities to view an exhibition of old photos from the region.
Bydd y prosiect Ein Cymdogaeth Werin, sy’n cael ei arwain gan PLANED yn archwilio sut y gall cysylltu â threftadaeth yn greadigol gyfrannu at iechyd a llesiant a darparu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc drwy brofiad treftadaeth ‘ymarferol’. Cafodd y prosiect ei lansio ar ddydd Sadwrn 13 Hydref yn Neuadd Gymunedol Maenclochog. Cafwyd sgwrs gan yr archaeolegydd Cymunedol, Delun Gibby, ac roedd cyfle i weld arddangosfa o hen luniau o’r rhanbarth.
Sophie Jenkins, Project Officer said: “We will be using innovative approaches to get local people involved with celebrating their heritage and culture. We hope this will help to create opportunities for development of cultural tourism to contribute to economic and social growth.”
The project will deliver an exciting three-year programme of activities celebrating and sharing heritage in the Preseli area, making it a stronger visitor destination based on its unique heritage and culture.
“We will be running Routes to Roots workshops designed to bring communities together to explore and identify their heritage assets and local stories. There will be training opportunities, community heritage exhibitions, walks and talks, as well as community based discussions about Preseli area’s heritage and culture. All of this will help us to explore and agree a collective approach to how heritage is used and valued and will help to strengthen the profile of the Preseli area as a destination for heritage tourism.”
Dywedodd Sophie Jenkins, Swyddog Prosiect: “Byddwn yn defnyddio dulliau arloesol o weithio i gynnwys y bobl leol mewn dathlu eu diwylliant a’u treftadaeth. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth ddiwylliannol gan gyfrannu at dwf economaidd a chymdeithasol.”
Bydd y prosiect yn darparu rhaglen gyffrous o weithgareddau dros dair blynedd yn dathlu a rhannu treftadaeth yn ardal y Preseli, gan ei wneud yn lleoliad cryfach ar gyfer ymwelwyr wedi seilio ar ei dreftadaeth a’i ddiwylliant unigryw.
“Byddwn yn cynnal gweithdai Taith at ein Gwreiddiau sydd wedi eu dylunio i ddod â chymunedau ynghyd i archwilio ac adnabod eu hasedau treftadaeth a’u hanesion lleol. Bydd cyfleoedd hyfforddiant ar gael, arddangosfeydd treftadaeth gymunedol, teithiau cerdded a sgyrsiau, yn ogystal â thrafodaethau wedi eu seilio ar y gymuned am dreftadaeth a diwylliant ardal y Preseli. Bydd hyn oll yn ein cynorthwyo ni i archwilio a chytuno ar ddull gweithredu o ran sut mae treftadaeth yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi a sut y bydd yn cyfrannu tuag at gryfhau proffil ardal y Preseli fel ardal twristiaeth treftadaeth.”
As part of the project PLANED is also working with Span Arts to create a beautiful interactive quilt exploring farming, life on the land and personal connections to the Preseli landscape. The Stitching Stories workshops are fully bilingual and you don’t need any previous experience to get involved.
The Great Place Scheme is a new pilot initiative across Wales, aim the main aim of the Scheme is to put heritage and culture at the heart of the local vision.
The Ein Cymdogaeth Werin – Preseli Heartlands Communities Great Place project is supported by the National Lottery through the Heritage Lottery Fund. The project is a partnership made up of key local organisations involved in heritage across Pembrokeshire, and was granted £218,000 from the Heritage Lottery Fund, with additional funding from Arwain Sir Benfro and Pembrokeshire Coast National Park.
To register an interest or book on to a Stitching Stories workshops visit span-arts.org.uk or call Span Arts on 01834 869323.
For more information on the Ein Cymdogaeth Werin – Preseli Heartlands project contact Sophie Jenkins on 01834 860965 or email sophiej@planed.org.uk
Fel rhan o’r prosiect, mae PLANED hefyd yn gweithio gyda Chelfyddydau SPAN i greu cwilt rhyngweithiol prydferth sy’n archwilio ffermio, bywyd ar y tir a chysylltiadau personol â thirwedd y Preseli. Mae’r gweithdai Pwytho Straeon yn gwbl ddwyieithog ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i fod yn rhan o’r gweithdai.
Mae Cynllun y Lle Arbennig yn fenter beilot ar draws Gymru. Prif nod y Cynllun yw rhoi treftadaeth a diwylliant wrth galon gweledigaeth leol.
Mae Ein Cymdogaeth Werin – Prosiect y Lle Arbennig yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae’r prosiect yn bartneriaeth o sefydliadau lleol allweddol sy’n ymwneud â threftadaeth ar draws Sir Benfro. Cafodd y prosiect £218,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, gyda chyllid ychwanegol gan Arwain Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
I gofrestru eich diddordeb neu i archebu lle yn y gweithdai Pwytho Straeon, ewch i span-arts.org.uk neu gallwch ffonio Celfyddydau Span drwy’r rhif canlynol: 01834 869323.
Am fwy o wybodaeth am Ein Cymdogaeth Werin cysylltwch â Sophie Jenkins dros y ffôn, 01834 860965, neu gallwch anfon neges e-bost i: sophiej@planed.org.uk