Stori’r Fryncaer – Story of the Hillfort (Diwrnod Archaeoleg – Archaeology Day 2020)

Dydd Sadwrn diwethaf y 7fed o Dachwedd, cynhaliodd PLANED & Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro eu diwrnod Archeoleg blynyddol – gyda gwahaniaeth!

Fel rheol, cynhelir y digwyddiad yn Theatr Myrddin, gyda diwrnod yn llawn darlithoedd a chyfle gwych i rwydweithio rhwng grwpiau treftadaeth lleol ac arbenigwyr.

Eleni, oherwydd heriau COVID19, penderfynwyd yn gynnar y byddai Diwrnod Archaeoleg 2020 yn cael ei gynnal trwy Ffrwd Fyw Youtube. Roedd hon yn fenter newydd ar gyfer PLANED a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wrth iddynt geisio cynllunio rhediant y dydd.

Arweiniodd gwerth misoedd o baratoi a gweithio mewn partneriaeth at ddiwrnod hynod lwyddiannus, gyda dros 180 o gyfranogwyr yn cymryd rhan yn y sesiwn fyw. Gyda channoedd yn fwy yn gwylio’r cynnwys ar ôl y digwyddiad. Da iawn i bawb a gymerodd ran!

Cafodd y ffilm isod ei chreu trwy brosiect Ein Cymdogaeth Werin – Preseli Heartlands Communities, a’i dangos am y tro cyntaf fel rhan o Ddiwrnod Archaeoleg 2020. Yn cynnwys yr Archaeolegydd Cymunedol Tomos Ll. Jones a llais y storïwraig Carol Pearce, crëwyd y ffilm hon yn lle taith gerdded a gynlluniwyd yn gynharach eleni y bu’n rhaid ei chanslo oherwydd COVID19.

Gwyliwch a mwynhewch ddysgu am Foel Drygarn!

———————————————————————————————

Last Saturday the 7th of November, PLANED &  Pembrokeshire Coast National Park held their annual Archaeology day – with a difference!

The event is normally held at the Merlin Theatre, with a day full of lectures and a fantastic opportunity to network between local heritage groups and experts.

This year, due to the challenges of COVID19 it was decided early on that Archaeology Day 2020 would be held virtually through a Youtube Live Stream. This was a new venture for both PLANED & Pembrokeshire Coast National Park as they sought to plan the running of the day.

Months worth of preparation and working in partnership led to a highly successful day, with over 180 participants taking part in the live session. With hundreds more viewing the content after the event. A huge well done to all involved!

The film below was created through the Ein Cymdogaeth Werin – Preseli Heartlands Communities project, and premiered as part of Archaeology Day 2020. Featuring Community Archaeologist Tomos Ll. Jones and the voice of storyteller Carol Pearce, this film was created in lieu of a walk that had been planned earlier this year that had to be cancelled due to COVID19.

Please watch and enjoy learning about Foel Drygarn!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *